Symud i dy arall
Gallwch benderfynu symud ty oherwydd nifer o resymau:
- Efallai nad oes digon o lofftydd ar gyfer y teulu
- Efallai bod yr eiddo yn rhy fawr oherwydd bod y plant erbyn hyn wedi gadael cartref
- Rhesymau meddygol – bod angen eiddo sydd wedi ei addasu yn arbennig ar gyfer person anabl neu sydd efo cyflwr meddygol penodol arall.
- Eich bod angen symud cartref oherwydd eich bod wedi cael swydd mewn ardal arall
- Bod angen symud er mwyn cael cefnogaeth teuluol
- Eich bod wedi dioddef trais
Os ydych yn penderfynu symud ty, gall y Gymdeithas eich helpu mewn nifer o ffyrdd:
Cyfnewid gyda thenant arall
Mae gennych yr hawl i gyfnewid eich ty gyda thenant arall Cymdeithas Tai Eryri, cymdeithas dai arall neu Gyngor lleol cyn belled a bod y ty yn addas ar eich cyfer. Rhaid i chi gael caniatad ysgrifenedig y Gymdeithas cyn cyfnewid gydag unrhyw denant arall.
Gall cyfnewid gyda tenant arall fod yn ffordd effeithiol o newid ty a gallwn eich helpu drwy hysbysebu eich ty ar ein safle we, ar hysbysfwrdd y swyddfa neu mewn rhifyn o Taro’r Post (cylchlythyr tenantiaid y Gymdeithas).
Os ydych yn dod o hyd i denant sydd yn fodlon cyfnewid, bydd rhaid i ni drefnu i Swyddog alw i’ch gweld i archwilio’ch cartref yn gyntaf. Os yw eich cartref mewn cyflwr derbyniol ac os yw eich cyfrif rhent yn glir, yna cewch fynd ymlaen gyda’r cyfnewid.
Pe caech yn cyfnewid gyda thenant arall heb gael ein caniatâd, gallwn gymryd camau cyfreithiol i’ch troi allan o’r eiddo. Mae gennym hawl i beidio caniatau cyfnewid mewn ffyrdd eraill hefyd:
- Os oes gennych ôl-ddyledion rhent
- Os ydych wedi gwneud gwelliannau neu newidiadau heb ein caniatâd ysgrifenedig
- Os ydych wedi achosi difrod i’r eiddo
- Os ydym yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn ar hyn o bryd fel rhybudd ceisio meddiant o ganlyniad i beidio talu rhent.
Medrwn hefyd beidio caniatau cyfnewid os ydym yn teimlo bod yr eiddo rydych yn bwriadu symud iddo yn anaddas ar eich cyfer.
Trosglwyddo
Os ydych eisiau symud i gartref arall ac ar yr un pryd am aros yn denant i Gymdeithas Tai Eryri, mae hawl gennych i ofyn am gael mynd ar y rhestr trosglwyddo. Rydym yn ystyried ceisiadau am drosglwyddiad gan unrhyw denant ond mae eithriadau:
- Bod gennych ddyled rhent
- Ein bod wedi cyflwyno rhybudd ceisio meddiant i chi
- Bod yr eiddo sydd gennych dan sylw yn rhy fawr neu’n rhy fach ar eich cyfer
- Bod yr eiddo sydd gennych dan sylw wedi ei addasu ar gyfer person anabl neu ei fod yn addas ar gyfer person oedranus.
Cynllun Mudoledd HOMES
Os oes arnoch angen symud i ran arall o’r wlad i fyw, gallwn eich helpu i symud drwy gyfrwng Cynllun Mudoledd HOMES (Housing Organisation Mobilty & Exchange Service) sef cynllun cenedlaethol sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth.
Cynllun yw hwn lle mae cymdeithasau tai a chynghorau yn enwebu ymgeiswyr ar gyfer eiddo addas mewn ardaloedd eraill o ddewis y tenant. Nid yw cynllun HOMES yn rhoi hawl awtomatig i chi symud o un ardal i’r llall ac nid oes raid i’r cyngor neu gymdeithas dai yn yr ardal yr hoffech symud iddi eich ail cartrefu. Rydych yn gymwys i dderbyn help y cynllun os ydych yn disgyn i un o’r categorïau canlynol:
- Os ydych wedi cael swydd mewn ardal arall ac mae’n rhy bell i chi deithio i’r swydd honno bob dydd
- Os oes angen i chi fod yn nes at berthnasau neu gyfeillion er mwyn iddynt roi cymorth i chi, neu er mwyn i chi roi cymorth iddynt hwy
- Os oes rhesymau penodol eraill megis trais domestig neu aflonyddu
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch efo ni yn y swyddfa.

