Cais am dŷ

Mae’r ffordd mae tai cymdeithasol yn cael eu gosod yng Ngwynedd wedi newid. O 10 Medi eleni UN polisi gosod a rhestr aros sydd ar gyfer pawb sy’n ceisio am dy efo Cymdeithas Tai Eryri, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Cymdeithas Tai Clwyd neu Tai Gogledd Cymru.

Tîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd sydd yn rhedeg y rhestr yma ac yn delio efo ymholiadau am bob un cais am lety.

Felly o hyn ymlaen:

  • Un pwynt cyswllt sydd yna ar gyfer pob ymholiad a chais am dai sef y Tîm Opsiynau Tai.
  • Un ffurflen gyffredin sydd angen ei llenwi i wneud cais am dŷ
  • Un system bwyntiau sydd ar gyfer pob cais o fewn Gwynedd

Felly os ydych am wneud cais am lety yng Ngwynedd, neu am holi am gais sydd yn bodoli eisoes, ffoniwch y Tîm Opsiynau Tai ar 01286 685 100 neu e-bostiwch nhw ar opsiynautai@gwynedd.gov.uk