Tenant Services
 

Safonau Gwasanaeth [...ymlaen]


Ceisio am dŷ a Gosod Eiddo

Byddwn yn:

  • rhoi ffurflen gais a thaflen wybodaeth i ymgeiswyr
  • ystyried ceisiadau yn unol â’n polisi gosod
  • rhoi cyngor a gwybodaeth i gwblhau’r ffurflen
  • adolygu ein rhestr aros yn flynyddol gan ysgrifennu at bob ymgeisydd
  • gweithredu polisi gosod lleol mewn ymgynghoriad, er mwyn sicrhau cymuned gynaliadwy
  • ystyried pob cais yn unigol os rydych eisiau cyfnewid eich eiddo
  • gosod ei eiddo yn unol â’r polisi gosod
  • trefnu cyfarfod i chi weld yr eiddo gan sicrhau ei fod yn cwrdd â safon eiddo gwag
  • rhoi cytundeb tenantiaeth i chi gan egluro eich cyfrifoldebau a’n cyfrifoldeb ni fel landlord
  • rhoi ‘pecyn croeso’ i bob tenant
  • ymweld â phob tenant o fewn 6 wythnos iddynt symud fewn
  • ymweld â chi yn ystod y mis o rybudd os rydych yn penderfynu gadael eich eiddo

Cefnogaeth i gynnal eich tenantiaeth

Byddwn yn

  • annog tenantiaid i fyw yn annibynnol gan gynnig gwasanaeth cefnogi tenantiaid
  • eich cyfeirio at asiantaethau eraill all eich helpu gyda materion cefnogi
  • rhoi gwasanaeth ar gyfer pobl hŷn

Tai â chefnogaeth (cynlluniau penodol i denantiaid gydag anghenion cefnogaeth)

Byddwn yn:

  • darparu gwasanaeth i denantiaid gydag anghenion cefnogaeth drwy ein cynlluniau tai a chefnogaeth

Gofal cwsmer

Byddwn yn:

  • ymateb i’ch ymholiad yn yr iaith o’ch dewis chi, drwy Gymraeg neu Saesneg
  • cynnig gwasanaeth ‘language line’ ar gyfer ieithoedd eraill
  • cynnig gwahanol ffyrdd i chi gysylltu â ni: ffôn, mewn person, ysgrifennu neu e-bost
  • ceisio delio gyda’ch ymholiad ar yr ymgais gyntaf, os na fydd hyn yn bosib byddwn yn egluro pam ac yn rhoi manylion cyswllt person neu asiantaeth gall eich helpu
  • ceisio cael pethau yn iawn tro cyntaf, ond os ydym ni'n methu, yn ymddiheuro ac yn ceisio dysgu o’n camgymeriadau
  • cael adborth gennych ar ein gwasanaethau er mwyn gwella ein gwasanaeth, a chyhoeddi canlyniadau holiaduron
  • cydnabod llythyrau ac e-bost o fewn 10 diwrnod gwaith
  • rhoi gwybodaeth a chyngor i chi drwy gynnig ymweliadau cartref, cyfweliad yn y swyddfa, digwyddiadau galw fewn a rhifau ffôn uniongyrchol i swyddogion
  • delio gyda chwynion o fewn 10 diwrnod gwaith
  • ysgrifennu atoch i adael chi wybod am unrhyw newidiadau i’ch cytundeb tenantiaeth

Cydraddoldeb

Byddwn yn sicrhau:

  • ein bod yn cynnig gwasanaeth cydradd heb wahaniaethu ar sail crefydd, hil, rhywioldeb, statws priodasol, anabledd nag oed
  • fod staff yn derbyn hyfforddiant ar faterion cydraddoldeb er mwyn cwrdd â gofynion cwsmeriaid
  • ein bod yn casglu a monitro gwybodaeth sydd yn sicrhau does neb yn derbyn anffafriaeth
  • ein bod yn gallu cynnig ein cyhoeddiadau mewn fformat gwahanol e.e. print bras neu ar dâp

Cyfranogiad tenantiaid ac ymgynghori

Byddwn yn:

  • helpu grwpiau tenantiaid sy’n bodoli yn barod a helpu tenantiaid sydd eisiau sefydlu grŵpiau
  • cymunedol a grŵpiau tenantiaid newydd
  • cynnig cefnogaeth hyfforddiant a chyngor i grwpiau neu unigolion sydd eisiau cymryd rhan mewn materion cymunedol/tai, gan gynnwys rhoi cymorth proffesiynol ac ariannol i denantiaid
  • sicrhau nad oes baich ariannol yn disgyn ar ein tenantiaid wrth iddynt wirfoddoli a chymryd rhan yng ngweithgareddau Cymdeithas Tai Eryri
  • cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n adrodd am ein perfformiad
  • rhoi gwybodaeth glir ac amserol i denantiaid ar ein polisïau a gweithdrefnau, gan ofyn barn tenantiaid pan rydym yn adolygu polisïau neu unrhyw newid mewn gwasanaeth
  • cynhyrchu Strategaeth fydd yn rhoi gwybodaeth am y ffordd byddwn yn hwyluso cyfranogiad

< tudalen blaenorol  |  tudalen 2 o 1 2

 

 

 

 
Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS