Wrth i chi symud i mewn i’ch cartref newydd, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod popeth i fyny at ein safon arferol. Dyma beth yw’r safon honno. Y gobaith yw bydd y wybodaeth o ddefnydd i chi ac yn help i chi setlo yn eich cartref.
Tu allan
Y Gerddi
- Ni fydd ysbwriel yn yr ardd a bydd gwellt wedi ei
dorri yn daclus pan fyddwch chi’n symud i fewn
- Bydd y ffens/ waliau/ llwybrau/ stepiau mewn cyflwr
diogel
Cytiau
- yn ddiogel ac wedi eu clirio a’u gwagio
Tu mewn
Addurniad yr eiddo
- y gwaith paent yn daclus drwy’r eiddo
- bydd paent yn cael ei ddarparu mewn rhai achosion ar
eich cyfer
- bydd tyllau wedi eu llenwi a hoelion wedi eu tynnu
oddi yna
Gosodiadau nwy a thrydan
- bydd profion trydanol a nwy (os yn berthnasol) wedi eu
gynnal ar yr eiddo, a’r tystysgrifau wedi eu gadael yn yr
eiddo
Drysau
- bydd pob drws mewn cyflwr da
Gwydr
- bydd pob gwydr yn yr eiddo yn gyfan ac yn ddiogel
Lloriau
- byddwn wedi clirio’r carpedi/lino/ laminate yn y
cyntedd, stafell fyw ac ystafell wely
- Bydd teils / gorchudd llawr yn y gegin neu’r stafell
ymolchi mewn cyflwr da
- bydd ‘floorboards’ yn ddiogel
Cegin
- bydd unedau yn lân ac yn addas ar gyfer eu defnyddio
- bydd y sinc yn lân ac mewn cyflwr da hefo plwg a
chadwyn
- bydd y teils i gyd yn gyfan ac mewn cyflwr da a glân
- eich cyfrifoldeb chi ydyw sicrhau bod eich popty a
pheiriant golchi yn cael ei osod gan berson cymwysedi
- bydd cyflenwad nwy neu trydan ym mhob cegin
- eich cyfrifoldeb chi ydyw sicrhau fod eich nwyddau yn
ffitio o fewn y gofod safonol sydd ar gael
Ystafell Ymolchi
- bydd unedau stafell 'ymolchi yn lan ac yn addas ar
gyfer eu defnyddio
- bydd cadwyn a phlwg ar y sinc yn y bath
- bydd y teils i gyd yn gyfan ac mewn cyflwr da a glân
Glanhau
- bydd yr eiddo i gyd wedi ei lanhau
- bydd lloriau wedi eu sgubo ac yn lan
- ni fydd dim eiddo yn yr atig
- bydd unrhyw fannau cymunedol yn lân
Diogelwch
- bydd ffenestri a drysau’r eiddo yn ddiogel
- ni fydd teils polystyren yn yr eiddo
Gwresogi
- bydd y system wresogi a dŵr poeth yn gweithio ac yn
addas