Tenant Services
 

Talu Rhent [...ymlaen]



Budd-dal Tai

Wrth lenwi ffurflen gais am fudd-dal tai, mae’n bwysig iawn rhoi’r wybodaeth y mae’r cyngor yn gofyn amdano, sef prawf fel llyfr pensiwn, llyfr budd-dal plant neu filiau nwy a thrydan, neu mi fydd yna oedi cyn i’r arian ddod trwyddo. Mi allwch hyd yn oed golli budd-dal od nad ydych yn rhoi popeth i mewn.

Wrth wneud cais am Gymorth Incwm neu Lwfans Chwilio am waith, mae tair ffurflen i’w llenwi:

  • Cais am Gymorth Incwm
  • Cais a Budd-dal Tai
  • Cais am Fudd-dal Treth Cyngor

Mae hefyd angen i chi lenwi ffurflen budd-dal tai cyngor – cewch ffurflen yn swyddfa’r cyngor neu yn un o swyddfeydd y Gymdeithas.

Os oes newid yn eich amgylchiadau, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r cyngor â’r DSS, beth bynnag yw’e newid, rhag ofn i chi orfod talu gordaliad budd-dal yn ôl.

Pan fydd y cyngor yn anfon ffurflen gais newydd atoch, mae’n rhaid i chi ei hanfon yn ôl yn syth. Mae’r cyngor yn gwneud hyn yn rheolaidd ac os nad ydych yn anfon y ffurflen yn ôl, mae perygl i chi golli swm sylweddol o fudd-dal tai a mynd i ddyled rhent efo’r Gymdeithas.

Wedi cael gwaith?

Os ydych wedi dechrau gweithio a’ch Cymorth Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith wedi dod i ben, mae posib i chi ddal i dderbyn yr un lefel o fudd-dal tai am hyd at bedair wythnos, sef taliad estynedig.

Pwy all hawlio taliad estynedig?

Fe all eich bod yn gymwys os ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod parhaol o chwe mis.

Gwneud cais am daliad estynedig: mae’n rhaid i chi wneud cais am fudd-dal estynedig i’r Ganolfan Waith neu swyddfa’r DSS o fewn wyth diwrnod o’r dyddiad y daeth eich Cymorth Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith i ben. Gofynnwch iddynt am ffurflen gais.

Datganiad rhent

Byddwn yn anfon datganiad atoch ddwywaith y flwyddyn er mwyn i chi sicrhau bod y taliad wedi cyrraedd eich cyfrif rhent. Bydd y datganiad yn dangos swm y rhent, y taliadau rydych wedi eu gwneud ac unrhyw Fudd-dal Tai rydym wedi ei dderbyn ar eich rhan.

Newidiadau yn y rhent

Gall y Gymdeithas godi neu ostwng y rhent neu’r tâl gwasanaeth drwy roi pedair wythnos o rybudd ysgrifenedig ymlaen llaw. Mae’r rhybudd fel rheol yn nodi’r rhent a thâl gwasanaeth y bwriedir ei godi arnoch. Nid oes hawl gennym i godi’r rhent fwy nag unwaith y flwyddyn ac ni fydd unrhyw godiad yn dod i rym ymhen llai na blwyddyn o’r codiad diwethaf neu ddyddiad cychwyn eich tenantiaeth. Fel rheol mae’r rhent yn codi ym mis Mai neu fis Hydref bob blwyddyn.

Os ydych yn derbyn budd-dal tai, efallai bydd swm y rhent a delir gennych bob wythnos yn newid gan fod eich budd-dal tai yn cael ei adolygu neu’n newid yn ôl eich incwm.

Trafferthion i dalu’ch rhent

Amod bwysig o fewn eich cytundeb tenantiaeth yw talu’r rhent ar amser. Os ydych yn denant efo person arall, mae pob un ohonoch yn gyfrifol am y rhent cyfan ac unrhyw ôl ddyledion rhent. Medrwn adennill y cyfan o’r ôl-ddyledion rhent gan unrhyw un o’r cyd-denantiaid. Os bydd un tenant yn gadael, mae’r tenant neu denantiaid sydd ar ôl yn gyfrifol am unrhyw rent sy’n ddyledus.

Os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent, y peth cyntaf ddylech ei wneud yw cysylltu efo’r swyddfa ar unwaith. Peidiwch ag anwybyddu’r broblem gan ei fod yn gallu mynd yn fater difrifol iawn mewn ychydig wythnosau.

Byddwn yn medru eich helpu gydag unrhyw geisiadau am fudd-dal tai, a’ch cynghori yngly^n â’ch hawliau. Cofiwch ein bod yno i’ch helpu. Gall un alwad ffôn wneud gwahaniaeth ac osgoi trafferthion yn hwyrach ymlaen.

Os ydych yn cael trafferth i dalu’r rhent, neu yn rhagweld y byddwch yn cael trafferthion yn y dyfodol, yna cysylltwch â ni cyn gynted â phosib.

Mae cyngor ar gael hefyd gan gyrff fel Shelter Cymru, Canolfannau CAB, Canolfannau Cynghori Cymunedol neu gan Gyfreithwyr.


< tudalen blaenorol  |  tudalen 2 o 1 2

 

 

 

 






Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS