Tenant Services
 

Talu Rhent



Dylech sicrhau eich bod yn talu eich rhent bob dydd Llun. Os am dalu’n fisol, rhaid talu ymlaen llaw. Bydd rhai ohonoch yn talu tâl gwasanaeth ar ben eich rhent am wasanaethau ychwanegol fel garddio, goleuo a glanhau cymunedol, systemau larwm tân a systemau gofal (Gofal Môn/Llinell Gymorth). Bydd y taliadau hyn wedi eu nodi ar eich cytundeb tenantiaeth.

Sut i Dalu

Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol i dalu’ch rhent:

  1. Efo terminal ‘Pay Point’

    Mae y rhain ar gael ymhob swyddfa post ac mewn siopau ac archfarchnadoedd.

    Mae eich Cerdyn Talu Rhent personol yn golygu bod talu’r rhent yn hawdd a chyfleus.

    Cyflwynwch y cerdyn efo’ch arian neu siec (Dylai’r siec fod yn daladwy i Cownteri Swyddfa Post Cyf). Cewch dderbynneb am y taliad a dylech ei gadw yn y waled bwrpasol fel prawf eich bod wedi talu. Dylai’r taliad fod wedi ei gofnodi ar eich cyfrif rhent gennym ni o fewn 4 diwrnod.

    Os digwydd i chi golli eich cerdyn, neu ei fod wedi cael ei ddifrodi neu ddwyn, cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn i ni archebu un newydd.

  2. Drwy 'Direct Debit'

    Gall eich swyddfa leol drefnu i chi dalu drwy Direct Debit'.  Mae hyn yn caniatau eich banc/cymdeithas adeiladu wneud taliadau rhent yn uniongyrchol i ni. Gallwch drefnu bod y rhain naill ai’n daliadau wythnosol neu fisol.

  3. Yn eich swyddfa leol

    Gallwch dalu’r rhent yn y swyddfa pe baech yn galw mewn. Gofalwch bod yr aelod staff sy’n derbyn eich taliad yn rhoi derbynneb i chi a’ch bod yn ei gadw yn ddiogel.

  4. Drwy gerdyn banc

    Gallwch hefyd dalu eich rhent drwy ddefnyddio unrhyw un o’r cardiau banc yma.

    Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw ffonio unrhyw un o’n swyddfeydd gyda’r manylion canlynol:

    • Rhif eich cerdyn
    • Math o gerdyn
    • ‘Expiry date’
    • ‘Issue Number’
    • Swm y taliad rydych am ei wneud
    • Cadarnhau yn enw pwy mae’r cerdyn

    Er diogelwch a thawelwch meddwl i chi, os bydd aelod o staff yn eich ffonio i ofyn am daliad – gofynnwch iddynt roi rhif eich tenantiaeth neu god yr eiddo i chi. Bydd Swyddogion dilys yn gallu rhoi’r wybodaeth gywir i chi.


tudalen 1 o 1 2  |  tudalen nesaf >

 

 

 

 
Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS