Pam darparu gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid?
Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn wreiddiol gan
Gymdeithas Tai Eryri er mwyn ceisio datrys problem gyda
throsiant uchel o denantiaid. Roedd y Gymdeithas yn
teimlo mai’r rheswm am hyn oedd y ffaith bod nifer o’r
tenantiaid yn symud i mewn i eiddo’r Gymdeithas heb y
sgiliau na’r wybodaeth i fyw yn annibynnol.
Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn mis Ionawr 2001
gyda’r nod o ddarparu cefnogaeth unigol i bob tenant
oedd angen y gwasanaeth.
Beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud?
Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid yn anelu at:
- helpu cynnal tenantiaethau a lleihau trosiant
- Atal digartrefedd lle bynnag bo’n bosibl ac i
gynnwys tenantiaid sydd wedi eu heithrio yn
gymdeithasol
- Helpu tenantiaid ifanc a bregus i ddatblygu eu
sgiliau bywyd, eu gallu ymarferol a’u hyder
Ceisiwn wireddu’r amcanion yma trwy gynnig cefnogaeth
a chyngor gyda materion cyflogaeth, help gyda
gwasanaethau dŵr, trydan, nwy ayb, chwilio am ddodrefn,
hawlio budd-daliadau, cysylltu ag asiantau eraill ar ran
y tenantiaid, a hybu sgiliau cyllidebol.
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
Gall unrhyw denant neu ddarpar denant i’r Gymdeithas
wneud defnydd o’r gwasanaeth os y teimlir y byddai o
fudd iddynt. Gall unrhyw un o swyddogion tai’r
Gymdeithas gyfeirio achos at y Swyddog Cefnogi
Tenantiaid.
Gweithgareddau Penodol
Mae’r isod yn dangos pa fath o weithgareddau y
gallai’r Swyddog Cefnogi Tenantiaid eu cyflawni fel rhan
o’r pecyn cefnogaeth.
- Cyngor ar Fudd-daliadau
Budd-dal tai, cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith,
budd-daliadau anabledd, credyd treth gweithio ayb.
Gall y gefnogaeth gynnwys help i lenwi ffurflenni a
chysylltu gyda’r asiantaethau perthnasol.
- Cyngor Rheoli Pres
Gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid helpu a chynghori
gyda pharatoi a chadw at gyllideb.
Gwasanaethau Dŵr, Trydan, Nwy ayb
Gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid helpu tenantiaid
newydd i gael cysylltu gwasanaethau dŵr, trydan a nwy.
Dodrefnu’r Eiddo
I gleientiaid gydag ond ychydig, neu ddim, dodrefn.
Gall Cymdeithas Tai Eryri ddarparu cyngor ar sut a ble
i gael dodrefn rhad o ansawdd a pha ddodrefn fyddai’n
bwysicaf i gael gyntaf. Gallai Cymdeithas Tai Eryri
roi gwybod i gleientiaid am gwmnïau neu asiantaethau
sy’n rhoi dodrefn i ffwrdd am ddim.
- Ceisiadau am Grantiau
Gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid roi cyngor a
chymorth i lenwi ffurflenni cais am grantiau i
asiantaethau perthnasol.
- Cyngor ar Addysg a Hyfforddiant
Gall hyn gynnwys cyngor ar gyrsiau sydd ar gael,
cysylltiadau ar gyfer colegau lleol a chymorth i lenwi
ffurflenni cais.
- Cyfeirio i Asiantaethau Eraill
Os yw’r cleient angen lefel uwch neu fath o gefnogaeth
nad yw’r Gymdeithas yn gallu ei gynnig, gall y Swyddog
Cefnogi Tenantiaid gyfeirio’r cleient at yr asiantaeth
berthnasol.
- Cymorth gyda chael cartref Newydd
Gall y Swyddog Cefnogi Tenantiaid roi cymorth a
chyngor i denantiaid i ddarganfod llety tu allan i
eiddo’r Gymdeithas.
- Eiriolaeth a Chyswllt
Lle mae’r Swyddog Cefnogi Tenantiaid yn cysylltu ag
asiantaethau eraill ar ran y tenant.
Pryd mae angen y gwasanaeth?
- Mae teulu’r tenant yn anfodlon neu’n methu cynnig
y lefel o gefnogaeth y mae’r tenant ei angen
- Mae gan y tenant/ymgeisydd ond ychydig neu ddim
profiad o fyw yn annibynnol
- Mae gan y tenant ond ychydig neu ddim dodrefn a
dim modd i brynu dodrefn
- Nid yw’r tenant/ymgeisydd yn ymwybodol o gostau
byw yn annibynnol a gallai elwa o gael cymorth i reoli
arian
- Mae fflat y tenant mewn cyflwr gwael (sydd yn fai
ar y tenant)
- Mae tystiolaeth nad yw’r tenant y gwybod sut i
gadw ei hunan na’r cartref yn lân a thaclus
- Mae gan y tenant fwy na £500 o ddyled rhent
Nod y cynllun
Nod y cynllun yw i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu
trin â pharch ac urddas ac iddynt ennill annibyniaeth,
er mwyn rheoli ei bywydau eu hunain.
Mae’r cynllun yn anelu at roi grym a hybu tenantiaid
i allu gwneud drostynt hwy eu hunain.
Mae’r gwasanaeth yn rhoi sgiliau angenrheidiol a’r
hyder i denantiaid allu cynnal eu tenantiaethau ac i fyw
yn annibynnol yn llwyddiannus. Yn ogystal â darparu’r
sgiliau yma yn unol â’r Cynllun Rheoli Tenantiaeth,
mae’r tenantiaid yn cael hwb i wneud drostynt hwy eu
hunain lle bo’n briodol ac i gymryd rhan weithredol mewn
gwneud penderfyniadau.
Mae’r cynllun cefnogaeth yn hybu’r tenantiaid i
gymryd rhan weithredol yn eu rhaglen cefnogaeth yn
ogystal â gwella safon y gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr
eraill y gwasanaeth. Byddwn yn anfon holiadur
bodlonrwydd gwasanaeth i bob tenant er mwyn monitro
bodlonrwydd gyda’r gwasanaeth ac i weithredu ar
awgrymiadau gan denantiaid er mwyn gwella’r gwasanaeth.
Cliciwch ar y linc canlynol am gopi PDF o'n Taflen
Cefnogi