Adroddiad Terfynol Prosiect ‘Cynnwys’

Lanswyd Adroddiad Terfynol Prosiect Cynnwys yng Nghaernarfon Dydd Gwener, 23 Mawrth 2007. Prosiect Cynhwysiant Cymunedol yw Prosiect Cynnwys a sefydlwyd yn 2004 i gefnogi unigolion a grwpiau lleiafrifol, sef pobl anabl, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a lesbiaid, dynion hoyw, pobl deurywiol a thrawsrywiol
yng Ngwynedd a Môn i gael gwell mynediad at wasanaethau’r ddwy sir sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd.

Mae’r ddogfen hon yn ffrwyth llafur tair blynedd o waith ymchwil gan Dim Cynnwys. Gobeithiwn y bydd canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn adnodd defnyddiol i fudiadau sy’n cynnig gwasanaethau cyngor a gwybodaeth yn y ddwy sir, ac yn dylanwadu ar bolisiau a strategaethau lleol.

Cliciwch ar y linc isod i lawrlwytho'r adroddiad...

Adroddiad Terfynol Prosiect 'Cynnwys' - PDF (1.3Mb)