Cartrefi Gwledig

Mae dwy ffrind ysgol ddilynodd eu trywydd eu hunain fel oedolion yn cael eu haduno’r wythnos yma drwy fynd yn gymdogion mewn datblygiad tai fforddiadwy newydd ar gost o dros £1m yn un gymunedau mwyaf gwasgaredig Gwynedd.

Magwyd Meira Evans a Beti Williams gyda’i gilydd ym mhentref Garndolbenmaen yng Ngwynedd dros hanner can mlynedd yn ôl. Bellach mae’r ddwy’n denantiaid mewn datblygiad sy’n cynnwys deg o gartrefi newydd gan brif gymdeithas dai’r ardal, Cymdeithas Tai Eryri.

“Y bwriad gwreiddiol oedd codi tai tair llofft yn unig,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Eryri, Walis George
“Ond profodd arolwg o anghenion lleol yr angen am wahanol fathau o gartrefi fforddiadwy ar gyfer anghenion teuluoedd gwahanol,” ychwanegodd.

O ganlyniad mae’r datblygiad, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Cyngor Cymuned Garndolbenmaen ym Mro Pedr, yn cynnwys un tŷ pum llofft, un tŷ pedair llofft ynghyd ag pedwar tŷ tair llofft a phedwar tŷ un-llawr. Bydd un o’r cartrefi’n darparu ar gyfer plentyn anabl.

Darparwyd y tir ar gyfer y datblygiad gan Gyngor Gwynedd ac agorwyd y cartrefi ffrâm pren yn swyddogol am 11.30 o’r gloch, bore Gwener, Rhagfyr 7, 2007, gan Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol ac Aelod y Cynulliad dros Feirionnydd/Dwyfor, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, ynghyd â deilydd portffolio tai Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Linda Wyn Jones.

“Cynigir y cartrefi i bobl leol sy’n ateb yr angen fel tenantiaeth neu ar delerau rhanberchenogaeth,” ychwanegodd Walis George.
“Rydym ni a’n partneriaid yn ymwybodol o’r prinder cartrefi addas yng nghefn gwlad ac mae hyn y enghraifft wych o’r hyn y gellir eu wneud i leddfu ychydig ar y prinder hwnnw,” meddai.

Cafodd Bro Gwgan ei enwi ar ôl cawr o ymladdwr yr Oesoedd Canol o’r ardal y dywedir iddo gyfoesi â’r Brenin Arthur. Cynigwyd yr enw gan Gethin Jones, disgybl wyth oed yn Ysgol Garndolbenmaen, ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth yn yr ysgol i ganfod enw addas i gartrefi newydd y pentref.

“Rwy’n hapus iawn fy mod wedi ennill y gystadleuaeth,” meddai Gethin.
“Bod tro y bydda i’n pasio’r cartrefi newydd rwy’n falch wrth edrych ar yr arwydd sydd ag enw Gwgan, ein cawn lleol ni,” ychwanegodd.

Mae ardal Cyngor Cymuned Dolbenmaen dros 20,000 o erwau gyda phoblogaeth o hyd at 1,200 – mae hynny’n 0.06 person yr erw!

Mae Cymdeithas Tai Eryri’n rheoli 1,200 o gartrefi yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

 

LLUN: Gethin Jones o Ysgol Garndolbenmaen gydag Bro Gwgan, yr enw ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth i ddewis ar gyfer cartrefi newydd Cymdeithas Tai Eryri’n y pentref.