Sut mae gwneud cais am dy?
Gallwch gysylltu ag unrhyw un o swyddfeydd y Gymdeithas i gael ffurflen gais am lety neu wrth lenwi ein ffurflen ar lein.
Mae Cymdeithas Tai Eryri yn cynnal rhestr aros am lety, gan ddefnyddio system bwyntiau i flaenoriaethu ceisiadau. Yn Ynys Môn, mae’r Gymdeithas yn rhan o bartneriaeth gyda’r Cyngor Sir sydd yn cynnal rhestr aros ar y cyd.
Gall unrhyw un wneud cais am ddy trwy gwblhau’r ffurflen gais ond mae yna eithriadau.
Ni allwn ystyried eich cais yn syth:
- Os ydych yn denant i Gymdeithas Dai arall neu Gyngor – rhaid i chi gysylltu gyda’ch landlord predennol yn gyntaf.
- Os ydych yn ddigartref – dylech gysylltu â’r Cyngor oherwydd ni allwn ddarparu llety brys. Fodd bynnag gallwn roi help ichi os nad ydych yn sïwr beth i’w wneud.
- Os ydych yn berchen eich cartref presennol – ni allwn eich cynnwys ar ein rhestr aros oni bai fod gennych resymau digonol e.e. methu talu’r morgais neu eich bod ar incwm isel. Bydd rhaid i chi ddarparuy tystiolaeth ar bapur e.e. llythyr gan y banc neu gymdeithas adeiladu i gyd-fynd â’ch cais. Problemau iechyd – dylech gael tystiolaeth ar bapur gan feddyg i gyd-fynd â’ch cais. Ty mewn cyflwr gwael – bydd disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth ar bapur i gyd-fynd â’ch cais e.e. adroddiad gan gwmni arbenigol neu Adran Amgylchedd y Cyngor.
Asesir pob cais yn ôl anghenion yr unigolyn ac fe ddefnyddir system bwyntiau i flaenoriaethu ymgeiswyr.
Gofynnir am enwau oddi ar y rhestr aros y Cyngor yn ogystal â’n rhestr ni ac fe osodir yr eiddo i’r ymgeisydd sydd efo’r nifer mwyaf o bwyntiau. Os ydych yn dymuno, gallwch gael copi o’n Polisi Gosod a’n system bwyntiau drwy gysylltu ag unrhyw un o’n swyddfeydd.
Ffurflen Ymholiad:
Defnyddiwch y ffurflen hon i ymholi.
Pethau i’w COFIO pan yn llenwi’r ffurflen gais:
- Dylech sicrhau eich bod yn llenwi’r ffurflen gais yn iawn er mwyn i ni allu rhoi pob chwarae teg i’ch cais. Os nad ydych yn llenwi pob rhan yn llawn, efallai y bydd rhaid i ni anfon y ffurflen yn ôl atoch, sy’n golygu oedi cyn y medrwn dderbyn eich cais ar y rhestr aros.
- Dylech sicrhau eich bod yn cynnwys eich cyn-gyfeiriadau – y llefydd y buoch yn byw ynddynt yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.
- Dylech gynnwys tystiolaeth feddygol os ydych naill a’i:
- yn feichiog neu,
- yn dioddef o unrhyw broblem feddygol
- Dylech gynnwys tystiolaeth ar bapur efo’ch cais:
- os oes gennych unrhyw broblemau ariannol neu,
- os nad yw eich cartref presennol yn addas ar eich cyfer
Symud Allan
Os ydych yn bwriadu symud allan o’r eiddo a gorffen eich tenantiaeth, dylech roi 4 wythnos o rybudd ar bapur i’r Gymdeithas. Rhaid i’r denantiaeth ddechrau a gorffen ar ddydd Llun. Pan fydd y tenant yn gadael yr eiddo, rhaid i bawb arall sy’n byw yn yr eiddo adael hefyd. Dylid gadael yr eiddo mewn cyflwr glân a thaclus. Pe baech yn gadael llanast ar eich hôl neu yn chosi unrhyw ddifrod i’r eiddo mae’n eithaf posib y byddwn yn eich bilio am y gwaith trwsio a chlirio.
tudalen 1 o 1 2 | tudalen nesaf >