Ar hyn o bryd nid nid oes
unrhyw arian ar gael ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu yng Ngwynedd na Ynys Môn
felly nid ydym yn anfon ffurflenni cais allan ar gyfer y cynllun.
Mae'r Gymdeithas yn gweinyddu'r Cynllun Cymorth Prynu sy'n gymorth ariannol sydd
ar gael i bobl leol sydd ar incwm anigonol i godi morgais i brynu eiddo addas.
Mae'r cynllun yn cynnig benthyciad ad-daladwy gwerth unai 30% neu 50% o bris
pryniant ty sy'n cael ei brynu oddi ar y farchnad agored (gweler isod
canllawiau cost uchafswm pris pryniant ar gyfer y cynllun).
I gymhwyso ar gyfer y cynllun rhaid profi nad yw'r ymgeisydd yn gallu fforddio
i brynu cartref heb gymorth y cynllun ac eu bod yn cymhwyso i weddill ofynion y
cynllun.
Mae'r cynllun yn cynnig benthyciad tuag at bryniant cartref addas ac yn ystod y
cyfnod mae'r ymgeiswyr yn byw yn yr eiddo nid oes rhaid gwneud unrhyw
ad-daliadau i'r Gymdeithas. Bydd yn rhaid gwneud taliadau misol am gostau eu
morgais i'r benthycwr morgais tuag at eu benthyciad am wedill y pris pryniant.
Mae rhaid ad-dalu'r benthyciad i'r Gymdeithas ar adeg gwerthu'r eiddo neu yn
gynt os y dymunir a'r hyn yn seliedig ar werth yr eiddo ar yr adeg ad-dalu, h.y
os prynir yr eiddo am £50,000 a rhoddir £15,000 sef 30% tuag at y pryniant gan
y Gymdeithas ac ar adeg ad-dalu'r benthyciad os yw'r eiddo gwerth £60,000 bydd
yn rhaid ad-dalu 30% o'r swm hyn sef £18,000 i'r Gymdeithas.
Mae’r cynllun Cymorth Prynu yn hynod boblogaidd
ac mae ymhell dros gant o ymgeiswyr ar ein rhestr
aros ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru
wedi gwneud ymchwil i fewn i’r cynllu yn ddiweddar
gan edrych ar y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei
redeg a phwy sydd yn gymwys. Bydd yn bosibl i chwi
gofrestru gyda ni, ond gan bod cymaint o ddiddordeb
ni allwn sicrhau ar hyn o bryd y bydd cyllid ar gael
ar gyfer y cynllun yn ei ffurf presennol yn y tymor
hir.
Benthyciadau Cymorth Prynu yn ystod 2006/2007
- Ynys Môn
Cyfanswm benthyciadau’r cynllun Cymorth Prynu (h.y.
30/50% o bris prynu yr eiddo) yn Ynys Môn oedd
£692,650 tuag at bryniannau 18 o gartrefi.
- Gwynedd
Cyfanswm benthyciadau’r cynllun Cymorth Prynu (h.y.
30/50% o bris prynu yr eiddo) yng Ngwynedd oedd
£1,276,548 tuag at brynianau 28 o gartrefi.
- Conwy
Cyfanswm benthyciadau’r cynllun Cymorth Prynu (h.y.
30/50% o bris prynu yr eiddo) yng Ngonwy oedd
£132,060 tuag at brynianau 2 o gartrefi.
Os ydych angen ffurlen gais neu fwy o wybodaeth parthed y Cynllun Cymorth Prynu
cysylltwch a'r Adran Gwasanaethau Eiddo, yn Nhy Silyn, Penygroes.
UCHAFSWM GWERTH AR GYFER Y CYNLLUN CYMORTH PRYNU
GWYNEDD
| PERSON SENGL |
£95,800 |
| CWPL HEB BLANT
|
£130,800 |
| TEULU 1 PLENTYN
|
£136,700 |
| TEULU 2 NEU 3 PLENTYN
|
£144,700 |
| TEULU 4 PLANT
|
£167,600 |
| TEULU 5 PLANT
|
£191,300 |
MÔN
| PERSON SENGL |
£101,000 |
| CWPL HEB BLANT
|
£141,100 |
| TEULU 1 PLENTYN
|
£147,000 |
| TEULU 2 NEU 3 PLENTYN
|
£155,700 |
| TEULU 4 PLANT
|
£180,400 |
| TEULU 5 PLANT
|
£206,300 |