|
|
||||||||||||
|
|
Beth ydan ni'n ei wneud?Cymdeithas Dai elusennol a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yw Cymdeithas Tai Eryri a reolir gan Fwrdd Rheoli o 15 aelod, sy’n cynnwys cynghorwyr lleol a thenantiaid. Etholir y Bwrdd Rheoli gan aelodau’r Gymdeithas yn ystod y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol. Y Bwrdd Rheoli sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion ariannol, strategol a pholisïau. Mae Cymdeithas Tai Eryri yn cydweithio’n agos gyda’r Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Orllewin Cymru i ddarparu cartrefi â chefnogaeth yn yr ardal. Sut mae Cymdeithas Tai Eryri yn cael cyllid?Mae’r Gymdeithas yn derbyn cyllid gan y Cynulliad Cenedlaethol a’r awdurdodau lleol. Mae’r gweddill yn cael ei godi trwy fenthyciadau preifat. Cyfle cyfartalWrth ddarparu cartrefi, gwasanaethau a chyflogaeth, rydym
bob amser am gadw at ysbryd ac ystyr cyfraith cyfle cyfartal.
Ni fydd neb yn cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu hil,
lliw, crefydd, tueddiad rhywiol, rhyw, anabledd ac iaith.
|
|
|
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS
|