Amdanom ni
 

Ein Stôc Tai


Tai Rhent: Mae’r Gymdeithas yn rheoli 1,026 uned yng Ngwynedd a 410 uned yn Ynys Môn. Mae ein stoc tai yn cynnwys stadau o dai newydd ac unedau wedi eu hadnewyddu mewn trefi a phentrefi ym mhob rhan o’r ddwy sir. Mae 80 uned yn ein safle mwyaf (tai ar gyfer pobl hŷn a thai â chefnogaeth) a 31 uned yn ein stad fwyaf ar gyfer anghenion cyffredinol.

@ 31.03.2007 Gwynedd Ynys Môn Conwy Cyfanswm
Tai Rhent        
Tai ar gyfer anghenion cyffredinol 791 275 - 1,066
Tai ar gyfer pobl hŷn 105 71 - 176
Tai â chefnogaeth 130 64 - 194
Is-gyfanswm 1,026 410 - 1,436
Tai Cost Isel        
Cymorth Prynu 212 110 37 359
Rhan-berchnogaeth 3 1 - 4
Is-gyfanswm 215 111 37 363
Cyfanswm 1,241 521 37 1,799

Ychwanegodd y Gymdeithas 14 uned at ein stoc yn 2006/07 a dechreuodd y gwaith o godi 28 uned arall. Gobeithiwn godi oddeutu 20 uned newydd arall yn 2007/08. Mae tri o gynlluniau Grant Tai Cymdeithasol 2006/08 mewn pentrefi gwledig - Garndolbenmaen, Dyffryn Ardudwy a Bodedern - yn torri tir newydd fel cynlluniau “daliadaeth niwtral”. Mae gan y tai hyn amodau arbennig sy’n eu targedu at ymgeiswyr lleol a fu’n byw neu weithio o fewn ardal y cyngor cymuned ers pum mlynedd.

Tai â chefnogaeth
Mae 13.5% o’n tai rhent yn “dai â chefnogaeth” (supported housing). Rydym yn Ddarparwr Cefnogaeth Achredig ar gyfer un ar ddeg prosiect tai â chefnogaeth, gyda’r Gymdeithas yn gyfrifol am y Grant Refeniw Cefnogi Pobl a dderbyniwyd (£873k yn 2007/08). Dyma’r prosiectau a’r grwpiau cleient:

  • Gwasanaeth cefnogi tenantiaid (cefnogaeth symudol). Grŵp cleient: tenantiaid bregus. Darparwr cefnogaeth: Cymdeithas Tai Eryri
  • Gwasanaeth Trais yn y Cartref Ynys Môn (lloches a chefnogaeth symudol). Grŵp cleient: merched a ddioddefodd drais yn y cartref. Darparwr cefnogaeth: Cymdeithas Tai Eryri/Gorwel
  • Llys Seion, Pwllheli (hostel a symud-ymlaen). Grwpiau cleient: pobl ifanc ddigartref, pobl ifanc sy’n gadael gofal, a rhieni sengl bregus. Darparwr cefnogaeth: Cymdeithas Tai Eryri/Gorwel
  • Cymorth i Ferched De Gwynedd (lloches a chefnogaeth symudol). Grŵp cleient: merched a ddioddefodd drais yn y cartref. Darparwr cefnogaeth: Cymorth i Ferched De Gwyned
  • Digartref Ynys Môn (hostel, symud-ymlaen a chefnogaeth symudol). Grwpiau cleient: pobl ifanc ddigartref a phobl ifanc sy’n gadael gofal. Darparwr cefnogaeth: Digartref Ynys Môn.

Mewn nifer o brosiectau eraill o fewn ein stoc dai, nid Cymdeithas Tai Eryri ond y Darparwr Cefnogaeth Achredig yw’r asiant rheoli. Mae’r prosiectau hyn yn cwrdd ag anghenion amrywiaeth o grwpiau cleient, yn cynnwys:

  • Pobl ag anableddau dysgu
  • Pobl ifanc sengl digartref / pobl ifanc sy’n gadael gofal
  • Pobl sy’n goresgyn dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau
  • Rhieni sengl bregus
  • Pobl gyda phroblemau iechyd meddwl
  • Cyn droseddwyr

Ymwneud mewn ffordd gyfyngedig y mae’r Gymdeithas â’r prosiectau hyn, sef gweithredu ein cyfrifoldebau landlord yn unig. Cafodd y cyfrifoldeb am rai gwasanaethau eraill eu dirprwyo i asiant rheoli drwy gytundeb rheoli, e.e. gosod eiddo a chasglu rhent.

Tai ar gyfer pobl hŷn
Mae 12% o’n stoc dai wedi ei lunio’n unswydd i gwrdd â gofynion pobl hŷn – sef fflatiau a byngalos pwrpasol gyda system alw am gymorth a gysylltwyd â larwm cymunedol. Mae hyn yn cynnwys un cynllun tai gwarchod traddodiadol ym Mhenucheldre, Caergybi lle mae 35 fflat, gwasanaeth Rheolwr Cynllun a chyfleusterau cymunedol. Datblygwyd cynigion gyda Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer ailwampio’r cynllun yma i greu tai gofal ychwanegol (extra care). Clustnodwyd Grant Tai Cymdeithasol o £2.375m i gyflawni’r gwaith yn rhaglen 2009/10.

Yn fuan bydd y Gymdeithas yn derbyn cyfrifoldeb corfforaethol am Tai Elen Glyn, sef elusendy gyda 10 fflat i bobl hŷn, yn hen reithordy Llandwrog ger Caernarfon. Ni chaiff yr eiddo ei drosglwyddo i’r Gymdeithas ond byddwn yn rheoli’r elusen a gweithredu’n unol â’r rheolau elusennol.

Tai Cost Isel
Mae’r Gymdeithas yn gweinyddu’r cynllun Cymorth Prynu yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Ar hyn o bryd (@ 31 Mawrth 2007) mae gennym gyfran ecwiti mewn 363 o unedau Cymorth Prynu. Gwnaed 45 benthyciad gwerth £2.1 miliwn yn 2006/07. Wrth i eiddo Cymorth Prynu gael ei ail werthu mae’r incwm a dderbynia’r Gymdeithas yn cael ei ailgyfeirio i’n Cronfa Ailgylchu Grantiau gan ddarparu ffynhonnell incwm ychwanegol i’r Gymdeithas (£366k yn 2006/07).
 


 

 

 

 
Amdanom ni | Cysylltwch â ni | Gwasanaethau i Denantiaid | Chwilio am dŷ | Cyfleoedd | Hafan | Map y Safle | Chwiliad | English
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS