|
|
||||||||||||
|
|
Strwythur y GrŵpCeir dau is-gwmni o fewn y Grŵp, sef Gofal a Thrwsio Gwynedd
(J125) a Gofal a Thrwsio Môn (J134). Mae’r ddau yn gwmnïau
cyfyngedig gan warant ac yn elusennau cofrestredig. Mae gan yr
is-gwmnïau annibyniaeth gweithredol trwy eu Pwyllgorau Rheoli,
sy’n cynnwys cynrychiolwyr y Gymdeithas ac asiantaethau eraill
gyda diddordeb arbennig yn y grwpiau cleient a wasanaethir.
Rhaid i’r ddau is-gwmni dderbyn cymeradwyaeth Bwrdd Rheoli’r
Gymdeithas yn flynyddol i’w Cynllun Busnes a Chyllideb. Mae
Memorandwm ac Erthyglau’r cwmnïau yn sicrhau rheolaeth y
Gymdeithas trwy gyfrwng y mwyafrif o bleidleisiau mewn
cyfarfodydd cyffredinol. Atgyfnerthir rheolaeth y Gymdeithas gan
gytundeb gweithdrefnau grŵp, sydd hefyd yn ein hymrwymo i
ddarparu gwasanaethau corfforaethol i’r ddau is-gwmni. Ymhlith y
gwasanaethau hyn y mae paratoi cyfrifon rheoli, archwilio mewnol,
cefnogaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, cefnogaeth
adnoddau dynol a’r swyddogaethau ysgrifennydd cwmni.
|
|
|
Dylunio a gwaith cynnal y wefan gan WiSS
|