Dechreuodd y Gymdeithas weithredu yn ardal cyn Gyngor
Bwrdeistref Arfon. Ehangodd i ardal cyn Gyngor Dosbarth Dwyfor
yn 1984 ac yna i Ynys Môn yn 1985. Bu gennym swyddfa lawn amser
yn Ynys Môn ers 1991. Yn 1988 sefydlodd y Gymdeithas “Gofal a
Thrwsio Arfon”, un o’r asiantaethau Gofal a Thrwsio cyntaf yng
Nghymru. Dechreuodd yr asiantaeth honno weithredu hefyd yn
Nwyfor yn 1991. Ehangodd y Gymdeithas i ardal cyn Gyngor
Dosbarth Meirionnydd ar ôl derbyn cyfrifoldeb am waith
Cymdeithas Tai Meirionnydd Nant Conwy yn 1992. Bu gennym swyddfa
ran amser ym Mlaenau Ffestiniog tan 2005.
Ar adeg ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 ehangodd asiantaeth
Gofal a Thrwsio Arfon/Dwyfor i Feirionnydd a dechrau gweithredu
dan yr enw “Gofal a Thrwsio Gwynedd”. Yn 1996 derbyniodd y
Gymdeithas yr hawl i redeg y cynllun newydd Cymorth Prynu (Homebuy
Scheme) yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Bu gennym swyddfa lawn
amser ym Mhwllheli o 1996 tan 2005 pryd y canolwyd ein
gwasanaethau tai yng Ngwynedd. Yn 1997 derbyniodd y Gymdeithas
gyfrifoldeb am waith Cymdeithas Dai Biwmares. Llwyddasom i
sefydlu asiantaeth Gofal a Thrwsio yn Ynys Môn yn 1998, a enwyd
yn “Gofal a Thrwsio Môn”. Sefydlwyd strwythur grŵp yn 1999 yn
dilyn ymgorffori Gofal a Thrwsio Gwynedd fel is-gwmni i
Gymdeithas Tai Eryri. Daeth Gofal a Thrwsio Môn hefyd yn is-gwmni
i’r Gymdeithas yn 2003.
Yn 2004 sefydlodd y Gymdeithas y prosiect Hwylusydd Tai Gwledig
Gwynedd (Gwynedd Rural Housing Enabler). Derbyniodd ein
strategaeth adfywio stadau yng Nghae Llwybr, Caernarfon wobr
TPAS Cymru am brosiect cyfranogiad tenantiaid gorau 2005. Roedd
y Gymdeithas yn un o sefydlwyr Partneriaeth UNDOD yn 2005 gyda
Chymdeithas Tai (CT) Clwyd, CT Gogledd Cymru a CT Canolbarth
Cymru. Yn y flwyddyn honno hefyd cyflwynasom gynllun peilot ar
gyfer cyflwyno tele-ofal mewn tai gwarchod traddodiadol. Yn 2006
cymerodd y Gymdeithas y cyfrifoldeb uniongyrchol am ddarparu
gwasanaethau cefnogol i ferched a ddioddefodd oddi wrth drais yn
y cartref yn Ynys Môn.